Welsh Parliament |
|
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig |
Economy, Trade, and Rural Affairs Committee |
Bil Bwyd (Cymru) |
Food (Wales) Bill |
FWB-25 |
|
Ymateb gan: Comisiynydd y Gymraeg |
Evidence from: Welsh Language Commissioner |
Annwyl Bwyllgor,
Ymgynghoriad: Bil Bwyd (Cymru)
Diolch yn fawr am y cyfle i gymryd rhan yn yr ymchwiliad uchod. Bydd ein sylwadau yn canolbwyntio ar oblygiadau’r Bil ar gyfer y Gymraeg. Rydym yn falch fod y Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud y Comisiwn Bwyd arfaethedig yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg, trwy gynnwys y Comisiwn yn Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r safonau hynny yn cynnwys y safonau llunio polisi, sy’n gosod dyletswydd ar sefydliadau i ystyried effaith polisi ar y Gymraeg. Hoffem dynnu eich sylw at ddogfen gyngor y Comisiynydd, Safonau Llunio Polisi: Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg[1] sy’n berthnasol i’r safon hwnnw.
Nodwn hefyd fod y Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud y Comisiwn Bwyd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd, dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i ymgymryd â datblygu cynaliadwy. Bydd hyn yn golygu gweithredu mewn dull fydd yn cyrraedd y nodau llesiant cenedlaethol. Dylid nodi fod y nodau llesiant yn cynnwys “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu” ac y dylai’r Gymraeg felly fod wrth graidd gwaith y Comisiwn.
Yn ôl Memorandwm Esboniadol y Bil, y bwriad yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru, cryfhau ein diogeledd bwyd, cefnogi datblygiad ein diwydiant bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynyddu dewis defnyddwyr (9). Mae’r Bil yn gosod y nod bwyd sylfaenol canlynol: “darparu bwyd fforddiadwy, iach, ac sy’n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl Cymru” (2). Mae hefyd yn gosod pum nod bwyd eilaidd. Un o’r rhain yw “llesiant economaidd”, sy’n cynnwys “Creu cyfleoedd economaidd newydd drwy hybu bwyd a gynhyrchir yn lleol” a “Hybu datblygiad economaidd, cymdeithasol a chymunedol cynaliadwy” (3 (1)). Ym marn y Comisiynydd, mae hyn yn cyd-fynd â nod 9 strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, “Cymuned a’r economi: cefnogi seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg”. Wrth drafod cymunedau lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, noda’r strategaeth:
“Mae nifer o’r ardaloedd hyn yn wledig,
ac yn ddibynnol i raddau helaeth ar y diwydiant amaeth, y diwydiant
bwyd a thwristiaeth. [...] Ceir yn yr ardaloedd hyn hefyd bocedi o
amddifadedd a thlodi gwledig, a chyflogau cyfartalog sydd
ymhlith
yr isaf yn y Deyrnas Unedig.”
Nodir yn y Memorandwm Esboniadol y “gallai’r Bil arwain at nifer o effeithiau cadarnhaol ar draws y sector amaethyddiaeth” (500) ac y “gallai’r Bil gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg” (503). Trafodir yr agweddau pwysig canlynol ar y diwydiant bwyd a’r diwydiant amaeth yng Nghymru (501-502):
¢ y sector amaethyddiaeth sydd â’r gyfran uchaf o weithwyr sy’n siarad Cymraeg
¢ mae busnesau bwyd-amaeth, gan gynnwys amaethyddiaeth, yn darparu amodau mwy ffafriol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg o’i gymharu â diwydiannau eraill
¢ mae bron i ddwy ran o dair (65 y cant) o siaradwyr Cymraeg ar ffermydd bach a bach iawn yng Nghymru yn siarad Cymraeg bob dydd
Mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw at rai o’r agweddau hyn yn y gorffennol ac rydym yn falch y cawsant eu hystyried wrth i’r Bil gael ei lunio[2]. Fel y noda’r Memorandwm Esboniadol, “Mewn llawer o rannau o Gymru, mae’r gymuned ffermio hefyd yn un o golofnau ein diwylliant Cymraeg unigryw” (39). Mae’n hollbwysig, felly, fod y Comisiwn Bwyd yn ystyried cymunedau Cymraeg wrth geisio cyrraedd y nod “llesiant economaidd”.
Mae Bil Amaethyddiaeth Cymru, y cyfeirir ato yn y Memorandwm Esboniadol, yn cynnwys y Gymraeg o fewn ei bedwerydd amcan, sef:
“cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd” (Rhan 1, Adran 1 (5)).
Credwn y dylid cyfeirio at y Gymraeg ar glawr y Bil Bwyd yn ogystal drwy roi cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd yn un o’i nodau, ac yng nghylch gorchwyl y Comisiwn. Byddai hyn yn fodd o annog y cynhyrchwyr bwyd hynny sy’n siarad Cymraeg, ynghyd ag eraill o fewn y diwydiant, i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn rhoi gwerth ar sgiliau Cymraeg. Byddai’n ategu’r ffordd y mae’r Bil yn “cyd-fynd â’r dirwedd ddeddfwriaethol bresennol” (16), fel y trafodir yn y Memorandwm Esboniadol gan y byddai’n cyd-fynd ag amcan y Bil Amaeth. Byddai cynnwys y Gymraeg ar glawr y Bil yn gam pwysig tuag at gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Byddai’n cefnogi egwyddorion Mesur y Gymraeg, a sefydlodd statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru ac na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Dylai’r Comisiwn Bwyd fod yn rhagweithiol wrth gyfrannu at hyfywedd y Gymraeg er mwyn sicrhau fod y Bil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefyllfa’r Gymraeg, yn hytrach nag adlewyrchu’r cyd-destun deddfwriaethol cadarnhaol yn unig.
Mae’r Memorandwm Esboniadol yn trafod pwysigrwydd bwyd o Gymru i’r economi, a’r gadwyn gyflenwi bwyd a diod a’r prosesau gweithgynhyrchu a phecynnu cysylltiedig (350). Rhaid cofio gwerth y Gymraeg fel arf marchnata unigryw all gynyddu potensial y farchnad, cynorthwyo twf busnesau a datblygu cynnyrch arloesol. Yn benodol, ceir tystiolaeth helaeth am werth y Gymraeg at ddibenion hyrwyddo, brandio a marchnata yn y sector gweithgynhyrchu a marchnata bwyd a diod. Mae ymchwil y Comisiynydd yn dangos bod defnyddio’r Gymraeg yn gwneud i gynnyrch sefyll allan, yn atgyfnerthu delwedd brand a tharddiad lleol cynnyrch, yn cynnig cyfleoedd i werthu mewn marchnadoedd newydd ac yn cael ei weld fel arwydd o ansawdd. (Gweler Gwerth y Gymraeg i’r sector bwyd a diod yng Nghymru: Adroddiad ymchwil[3].). Mae archfarchnad Lidl yn un o blith nifer sy’n cydnabod hyn, gyda’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar ei holl gynnyrch Cymreig lleol, sydd ar hyn o bryd yn golygu 70 darn o gynnyrch[4].
Mae normaleiddio’r Gymraeg yn rhan o weledigaeth y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn Cymraeg 2050. Byddai cynnwys y Gymraeg ar becynnau bwyd fel mater o drefn yn cyfrannu at wireddu’r weledigaeth hon. Dylai’r Comisiwn Bwyd ddarparu cyngor i gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru ynghylch buddion marchnata Cymraeg a dwyieithog fel modd o gyfrannu at y nod “llesiant economaidd”. Nid oes rhaid ond edrych ar benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid enw’r timau cenedlaethol o ‘Wales’ i ‘Cymru’ a’i defnydd o’r Gymraeg ar y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol mewn cystadlaethau rhyngwladol megis Cwpan y Byd 2022 i sylweddoli potensial y Gymraeg ar gyfer ennyn sylw a chefnogaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae Strategaeth Ryngwladol y Llywodraeth yn trafod y bwriad o godi proffil Cymraeg a “defnyddio diwylliant Cymru a’r Gymraeg fel ffactor cadarnhaol gwahaniaethol i hybu twristiaeth gynaliadwy i gynulleidfaoedd rhyngwladol”[5]. Dylid ystyried y Gymraeg yn nodwedd unigryw ar gyfer hybu bwyd Cymru ar lwyfan ryngwladol hefyd.
Byddem yn croesawu’r cyfle i gael trafodaeth gyda’r Comisiwn pan gaiff ei sefydlu. Mae gan ein tîm Hybu[6], er enghraifft, brofiad helaeth o weithio gyda chwmnïau a rhwydweithiau yn y sector preifat er mwyn eu cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnes. Rydym yn gobeithio y bydd y sylwadau uchod o ddefnydd i chi yn eich ymgynghoriad. Anogwn y Pwyllgor i sicrhau bod Bil Bwyd (Cymru) yn cyfrannu at hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy:
¢ Wneud cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd yn un o nodau’r Bil gan sicrhau cysondeb â Bil Amaeth (Cymru)
¢ Sicrhau bod hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn Bwyd
¢ Fel cam tuag at sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio ar becynnu cynnyrch o Gymru o sicrhau bod y Comisiwn Bwyd yn darparu cyngor i gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru ynghylch buddion marchnata Cymraeg a dwyieithog fel modd o gyfrannu at y nod “llesiant economaidd”
Diolch ichi am y cyfle i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.
Yr eiddoch yn gywir,
Efa Gruffudd Jones
Comisiynydd y Gymraeg
[1] Safonau Llunio Polisi: Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg (comisiynyddygymraeg.cymru)
[2] Gweler, er enghraifft, ein hymatebion i ymgynghoriad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.